Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:12-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.

13. Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14. A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15. Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16. Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17. A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr Arglwydd: eithr eu ffordd hwynt nid yw union.

18. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt.

19. A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw.

20. Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21. Ac yn y degfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn o'n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o'r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.

22. A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33