Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31:10-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder;

11. Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan.

12. A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a'i torasant hi ymaith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.

13. Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;

14. Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y disgynnodd hi i'r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi.

16. Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf.

17. Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.

18. I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i'r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a'i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 31