Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:22-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch:

23. Meibion Babilon a'r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wŷr ieuainc dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn benaethiaid ac yn enwog, yn marchogaeth meirch, bawb ohonynt.

24. A deuant i'th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynulleidfa o bobl; gosodant i'th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o'u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a'th farnant â'u barnedigaethau eu hun.

25. A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a'th ferched; a'th weddill a ysir gan y tân.

26. Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.

27. Felly y gwnaf i'th ysgelerder, a'th buteindra o dir yr Aifft, beidio â thi; fel na chodech dy lygaid atynt, ac na chofiech yr Aifft mwy.

28. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.

29. A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a'th buteindra.

30. Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda'u heilunod hwynt.

31. Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.

32. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.

33. Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.

34. Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23