11. A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a'i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer.
12. Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a'r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuainc dymunol i gyd.
13. Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy,
14. Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra: canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion,
15. Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth:
16. Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â'i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea.
17. A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a'i halogasant hi â'u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a'i meddwl a giliodd oddi wrthynt.
18. Felly y datguddiodd hi ei phuteindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.
19. Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft.
20. Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a'u diferlif fel diferlif meirch.
21. Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.
22. Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch: