Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:24-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y'ch delir â llaw.

25. Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,

26. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.

27. Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.

28. Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:

29. Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.

30. A ddychwelaf fi ef i'w wain? yn y lle y'th grewyd, yn nhir dy gynefin, y'th farnaf.

31. A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21