Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 17:23-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant.

24. A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwneuthum.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 17