9. Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg.
10. Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
11. Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gig o'i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi.
12. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o'ch amgylch y gwnaethoch.
13. A phan broffwydais, bu farw Pelatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef uchel, a dywedais, O Arglwydd Dduw, a wnei di dranc ar weddill Israel?
14. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
15. Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth.
16. Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant.
17. Dywed gan hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o'r gwledydd y'ch gwasgarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dir Israel.