Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o'r tu dwyrain i'r ddinas.

24. Yna yr ysbryd a'm cododd i, ac a'm dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. A'r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf.

25. Yna y lleferais wrth y rhai o'r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a ddangosasai efe i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11