Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.

2. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:

3. Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.

4. Am hynny proffwyda i'w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.

5. Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Tŷ Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chwi, bob un ohonynt.

6. Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau.

7. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o'i chanol.

8. Y cleddyf a ofnasoch, a'r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd Dduw.

9. Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg.

10. Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11