Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a gafodd wybodaeth.

10. Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.

11. Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

12. Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

13. Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.

14. Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna'r penaethiaid gyfiawnder.

16. Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.

17. Y sawl a'm carant i, a garaf finnau; a'r sawl a'm ceisiant yn fore, a'm cânt.

18. Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.

19. Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a'm cynnyrch sydd well na'r arian detholedig.

20. Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:

21. I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8