Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:23-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.

24. Pryd nad oedd dyfnder y'm cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.

25. Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y'm cenhedlwyd:

26. Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na'r meysydd, nac uchder llwch y byd.

27. Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:

28. Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:

29. Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:

30. Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;

31. Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a'm hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.

32. Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.

33. Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.

34. Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.

35. Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8