Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:11-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

12. Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

13. Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.

14. Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna'r penaethiaid gyfiawnder.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8