Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:6-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.

7. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.

8. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.

9. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus.

10. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl.

11. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.

12. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.

13. Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar.

14. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.

15. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau.

16. Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

17. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

18. Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.

19. Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogail.

20. Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus.

21. Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

22. Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.

23. Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31