3. Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.
4. Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:
5. Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig.
6. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.
7. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
8. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.
9. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus.
10. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl.
11. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.
12. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.
13. Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar.
14. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.
15. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau.
16. Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.
17. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.