Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:29-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.

30. Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.

31. Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31