Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.

13. Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar.

14. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.

15. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau.

16. Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

17. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31