Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 26:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl.

9. Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.

10. Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i'r troseddwyr.

11. Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb.

12. A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 26