Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 25:4-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof arian lestr.

5. Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a'i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.

6. Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr:

7. Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na'th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.

8. Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.

9. Ymresyma â'th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall:

10. Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith.

11. Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.

12. Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

13. Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

14. Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

15. Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

16. Pan gaffech fêl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

17. Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a'th gasáu.

18. Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 25