Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 24:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.

19. Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:

20. Canys ni bydd gwobr i'r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.

21. Fy mab, ofna yr Arglwydd a'r brenin, ac nac ymyrr â'r rhai anwastad:

22. Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23. Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.

24. Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a'i melltithiant ef, cenhedloedd a'i ffieiddiant ef:

25. Ond i'r neb a'i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.

26. Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.

27. Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 24