Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Gwrando ar dy dad a'th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.

23. Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.

24. Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a'r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o'i blegid.

25. Dy dad a'th fam a lawenycha; a'r hon a'th ymddûg a orfoledda.

26. Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 23