1. Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron:
2. A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig.
3. Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.
4. Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.
5. A beri di i'th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua'r wybr.
6. Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo'i ddanteithion ef.
7. Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a'i galon heb fod gyda thi.
8. Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a'th eiriau melys a golli.
9. Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.
10. Na symud mo'r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:
11. Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.
12. Gosod dy galon ar addysg, a'th glustiau ar eiriau gwybodaeth.