Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:10-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Bwrw allan y gwatwarwr, a'r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a'r gwarth a dderfydd.

11. Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.

12. Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.

13. Medd y diog, Y mae llew allan; fo'm lleddir yng nghanol yr heolydd.

14. Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno.

15. Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a'i gyr ymhell oddi wrtho.

16. Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a'r neb a roddo i'r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.

17. Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.

18. Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

19. Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.

20. Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,

21. I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i'r neb a anfonant atat?

22. Nac ysbeilia mo'r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.

23. Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a'u gorthrymo hwynt.

24. Na fydd gydymaith i'r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22