8. Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.
9. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
10. Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.
11. Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.
12. Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.
13. Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.
14. Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.
15. Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.
16. Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.
17. Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.
18. Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a'r troseddwr dros yr uniawn.
19. Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon.
20. Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a'u llwnc hwynt.