Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a'i try hi lle y mynno.

2. Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau.

3. Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth.

4. Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.

5. Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.

6. Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.

7. Anrhaith yr annuwiol a'u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.

8. Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.

9. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

10. Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.

11. Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.

12. Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21