Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 2:10-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Pan ddelo doethineb i mewn i'th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;

11. Yna cyngor a'th gynnal, a synnwyr a'th geidw:

12. I'th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;

13. Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;

14. Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;

15. Y rhai sydd â'u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

16. I'th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 2