Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 11:12-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.

13. Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.

14. Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.

15. Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.

16. Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r galluog a gânt gyfoeth.

17. Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.

18. Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i'r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.

19. Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.

20. Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.

21. Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.

22. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.

23. Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.

24. Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.

25. Yr enaid hael a fraseir: a'r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.

26. Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a'i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a'i gwertho.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 11