Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 11:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.

2. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda'r gostyngedig y mae doethineb.

3. Perffeithrwydd yr uniawn a'u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a'u difetha hwynt.

4. Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

5. Cyfiawnder y perffaith a'i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.

6. Cyfiawnder y cyfiawn a'u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.

7. Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.

8. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei le ef.

9. Rhagrithiwr â'i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.

10. Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.

11. Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

12. Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.

13. Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.

14. Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.

15. Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.

16. Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r galluog a gânt gyfoeth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 11