Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 10:26-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Megis finegr i'r dannedd, a mwg i'r llygaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.

27. Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28. Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.

29. Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.

30. Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.

31. Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a'r tafod cyndyn a dorrir ymaith.

32. Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 10