1. Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.
2. Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
3. Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.
4. Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.
5. Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.
6. Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
7. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
8. Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp.
9. Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod.
10. Y neb a amneidio â'i lygaid, a bair flinder: a'r ffôl ei wefusau a gwymp.
11. Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
12. Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.
13. Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.
14. Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.