5. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
6. I ddeall dihareb, a'i deongl; geiriau y doethion, a'u damhegion.
7. Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
8. Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:
9. Canys cynnydd gras a fyddant hwy i'th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10. Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna.
11. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
12. Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i'r pydew:
13. Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
14. Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:
15. Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
16. Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.
17. Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.
18. Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.
19. Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20. Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: