Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 1:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;

2. I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;

3. I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;

4. I roi callineb i'r angall, ac i'r bachgen wybodaeth a synnwyr.

5. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

6. I ddeall dihareb, a'i deongl; geiriau y doethion, a'u damhegion.

7. Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.

8. Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:

9. Canys cynnydd gras a fyddant hwy i'th ben, a chadwyni am dy wddf di.

10. Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna.

11. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

12. Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i'r pydew:

13. Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:

14. Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:

15. Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.

16. Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

17. Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 1