Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.

17. Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?

18. Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i'r holl Aifft:

19. Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddodau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynedig, â'r rhai y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna'r Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.

20. A'r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a'r rhai a ymguddiant rhagot ti.

21. Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.

22. A'r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.

23. Ond yr Arglwydd dy Dduw a'u rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;

24. Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.

25. Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na'r arian na'r aur a fyddo arnynt, i'w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i'r Arglwydd dy Dduw ydyw.

26. Na ddwg dithau ffieidd‐dra i'th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 7