12. A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.
13. Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i'w wneuthur, sef y dengair; ac a'u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
14. A'r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i'w meddiannu.
15. Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)
16. Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw,
17. Llun un anifail a'r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,
18. Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a'r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;
19. Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua'r nefoedd, a gweled yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, sef holl lu y nefoedd, a'th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
20. Ond yr Arglwydd a'ch cymerodd chwi, ac a'ch dug chwi allan o'r pair haearn, o'r Aifft, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.
21. A'r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i'r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.
22. Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.
23. Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
24. Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.
25. Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i'w ddigio ef;
26. Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a'r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i'w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y'ch difethir.