Deuteronomium 4:21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A'r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i'r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.