Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A rhydd yr Arglwydd hwynt o'ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi.

6. Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd.

7. A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda'r bobl yma i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8. A'r Arglwydd hefyd sydd yn myned o'th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

9. A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a'i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.

10. A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,

11. Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

12. Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a'r plant, a'r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

13. Ac y byddo i'w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.

14. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.

15. A'r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a'r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda'th dadau; a'r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a'm gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31