Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:18-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.

19. Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.

20. Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i'w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a'u gwasanaetha hwynt, ac a'm dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.

21. Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i'r tir a addewais trwy lw.

22. A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a'i dysgodd hi i feibion Israel.

23. Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i'r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.

24. A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;

25. Yna y gorchmynnodd Moses i'r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, gan ddywedyd,

26. Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i'th erbyn.

27. Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a'th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?

28. Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a'ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.

29. Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o'r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.

30. A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31