Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a'r felltith, y rhai a roddais o'th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y'th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt;

2. A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a'th blant, â'th holl galon, ac â'th holl enaid:

3. Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a'th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y'th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di.

4. Pe y'th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y'th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y'th gymerai.

5. A'r Arglwydd dy Dduw a'th ddwg i'r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a'i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a'th wna yn amlach na'th dadau.

6. A'r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.

7. A'r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a'th erlidiant di.

8. Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.

9. A'r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10. Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a'i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

11. Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

12. Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i'r nefoedd, ac a'i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30