3. Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a'i holl bobl; ac ni a'i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:
4. Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
5. Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn.
6. A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a'r plant.
7. Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.
8. A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o'r tu yma i'r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
9. (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a'r Amoriaid a'i galwant Senir;)
10. Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
11. Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.
12. A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.