Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3:18-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i'w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.

19. Yn unig eich gwragedd, a'ch plant, a'ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi.

20. Hyd pan wnelo'r Arglwydd i'ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth a roddais i chwi.

21. Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r ddau frenin hyn: felly y gwna'r Arglwydd i'r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.

22. Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.

23. Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd,

24. O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i'th was dy fawredd, a'th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a'th nerthoedd di?

25. Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a'r mynydd da hwnnw, a Libanus.

26. Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o'ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.

27. Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua'r gorllewin, a'r gogledd, a'r deau a'r dwyrain, ac edrych arni â'th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.

28. Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.

29. Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 3