Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.

3. Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt.

4. A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.

5. Ac adeilada yno allor i'r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.

6. A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i'r Arglwydd dy Dduw.

7. Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

8. Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.

9. A llefarodd Moses a'r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y'th wnaethpwyd yn bobl i'r Arglwydd dy Dduw.

10. Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

11. A gorchmynnodd Moses i'r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd.

12. Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.

13. A'r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.

14. A'r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27