Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 26:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan ddelych i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a'i feddiannu, a phreswylio ynddo;

2. Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o'th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo:

3. A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i'r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni.

4. A chymered yr offeiriad y cawell o'th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw:

5. A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i'r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.

6. A'r Eifftiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.

7. A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.

8. A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau.

9. Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10. Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

11. Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i'th deulu, tydi, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysg.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 26