10. Pan fenthycieth i'th gymydog fenthyg dim, na ddos i'w dŷ ef i gymryd ei wystl ef.
11. Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti.
12. Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.
13. Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y'th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14. Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:
15. Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.
16. Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17. Na ŵyra farn y dieithr na'r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.
18. Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19. Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymryd: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo.
20. Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.
21. Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.
22. Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.