20. Pob ehediad glân a fwytewch.
21. Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i'r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i'r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
22. Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn.
23. A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o'i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a'th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a'th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser.
24. A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw:
25. Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:
26. A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a'th deulu.
27. A'r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28. Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.
29. A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â'th law.