Deuteronomium 14:29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â'th law.