Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 9:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.

3. Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw.

4. A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant, ac i'r rhai a gadwant ei orchmynion;

5. Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau.

6. Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir.

7. I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i'th erbyn.

8. Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n tadau, oherwydd i ni bechu i'th erbyn.

9. Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i'w erbyn.

10. Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o'n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 9