I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i'th erbyn.