Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 5:11-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a'r brenin Nebuchodonosor dy dad a'i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di.

12. Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad.

13. Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda?

14. Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol.

15. Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o'm blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth.

16. Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

17. Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i'r brenin, a'r dehongliad a hysbysaf iddo.

18. O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

19. Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a'r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a'r neb a fynnai a ostyngai.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 5