Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.