Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 3:20-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i'w bwrw i'r ffwrn o dân poeth.

21. Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a'u cwcyllau, a'u dillad eraill, ac a'u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth.

22. Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a'r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego.

23. A'r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym.

24. Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin.

25. Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw.

26. Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.

27. A'r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o'u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 3