Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.